Home > Recriwtio > Gweithio gyda Trennau Arriva Cymru

  
  • Gweithio i Drenau Arriva Cymru

    Train Painting at Canton  

    Mae pencadlys Trenau Arriva Cymru yng Nghaerdydd. Mae'n cynnwys adrannau megis Marchnata, Adnoddau Dynol, Diogelwch a Chynllunio a llawer un arall. Fodd bynnag, mae Trenau Arriva Cymru hefyd yn cynnig mathau eraill o swyddi megis Tocynwyr Trên a gyrwyr. Os ydych eisiau rhagor o wybodaeth am gyfleoedd gwaith, ewch i Cysylltu â ni.

    Mae Trenau Arriva Cymru yn flaengar wrth newid diwydiant y rheilffyrdd. Mae buddsoddi mwy mewn teithio ar y rheilffyrdd yn golygu twf, gwell berfformiad a gwasanaethau, agweddau newydd a ffyrdd newydd o weithio - ac wrth gwrs mwy o gyfleoedd gwaith.

    Rydym yn cynnig amrywiaeth fawr o swyddi sy'n gofyn am sgiliau amrywiol, mewn gwahanol leoedd. Mae'r rhan fwyaf o'n swyddi gwag ar ein trenau neu yn ein gorsafoedd.

    Mae Trenau Arriva Cymru'n cynnig cyfleoedd cyffrous ar gyfer gwaith a datblygiad personol. Rydym yn cynnig gyrfaoedd diddorol a boddhaus mewn amrywiaeth fawr o rolau, gyda'r holl fuddion y byddech yn eu disgwyl.

    Rydym wedi ymrwymo i amrywiaeth a chroesewir ceisiadau gan bob ymgeisydd sydd â chymwysterau addas.

    Cliciwch isod i chwilio am swydd benodol neu i weld rhestr lawn o'r swyddi gweigion sydd gennym ar hyn o bryd.

    Pam gweithio i Drenau Arriva Cymru?
    Ei bobl sy'n ganolog i lwyddiant cwmni Arriva. Mae ein gweithwyr yn chwarae rhan fawr mewn  sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid.

    Gyda swydd yn un o'n lleoliadau ni o amgylch Cymru, gellwch fwynhau'r manteision o weithio mewn gwlad lle mae ansawdd bywyd yn rhagorol.  P'un ai ydych wedi byw yma erioed, neu'n meddwl symud oherwydd y swydd, mae digonedd i'ch cadw yng Nghymru!

    Arfordir a chefn gwlad trawiadol; tri Pharc Cenedlaethol, gan gynnwys un o fynyddoedd uchaf Prydain; prifddinas, trefi marchnad prysur a phentrefi hardd; bwyd gwych; gweithgareddau awyr agored, chwaraeon, diwylliant a'r celfyddydau - mae'r cyfan yma.  Nid oes angen i chi deithio ymhell i ddod o hyd i rywbeth rydych yn mwynhau ei wneud - mae Cymru'n cynnig rhywbeth i bawb.

    Mae'r ystod o fuddion a gynigiwn i'n staff yn gwneud gweithio i Trenau Arriva Cymru yn fwy deniadol byth. Rydym hefyd wedi ymrwymo i sicrhau y cewch yr hyfforddiant y bydd arnoch ei angen yn eich gwaith, ac i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa gyda ni.

    Rhaid i bob penodiad gael ei gefnogi gan dystlythyrau boddhaol, sgrinio ar gyfer cyffuriau ac alcohol, a bydd yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf o chwech neu ddeuddeng mis yn foddhaol.


     

     



Copyright ©2006 Arriva Trains Wales |